Am y Rôl

Mae Prif Gomisiynydd y Cydbwyllgor Comisiynu (CBC) yn darparu cyfeiriad strategol a throsolwg i sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel yn cael eu comisiynu ledled Cymru ac mae’n atebol yn gyffredinol am reoli’r gyllideb a’i llywodraethu’n ariannol, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n effeithlon i anghenion gofal iechyd Cymru.

Mae’r rôl yn cynnwys:

Atebolrwydd:
Atebolrwydd cyffredinol am reolaeth a llywodraethu ariannol y gyllideb, gan sicrhau dyraniad effeithlon o adnoddau i ddiwallu anghenion gofal iechyd ein cymunedau, sef tua £1.3 biliwn.

Effeithiolrwydd Sefydliadol:
Sicrhau effeithiolrwydd y CBC a’i dîm cefnogi, gan feithrin diwylliant o gydweithio, arloesi ac atebolrwydd.

Datblygu Tîm
Adeiladu a datblygu tîm newydd y CBC, gan ddarparu arweiniad, cyngor a chymorth i gyflawni ein hamcanion strategol.

Arweinyddiaeth Strategol:
Darparu arweinyddiaeth lefel uchaf, gweledigaeth, a chyfeiriad strategol i dîm y CBC, gan arwain datblygiad a chyflawniad ein blaenoriaethau strategol.

Datblygu Strategaeth:
Datblygu a sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyflawni ar ran y CBC, gan sicrhau aliniad ag arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a blaenoriaethau gofal iechyd.

Aliniad gyda Gwasanaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol:
Sicrhau bod comisiynu gwasanaethau dirprwyedig yn cyd-fynd â’r dystiolaeth orau, blaenoriaethau byrddau iechyd, a chysondeb strategol â gwasanaethau gofal iechyd rhanbarthol, cenedlaethol (Cymru) a’r DU lle bo’n briodol.

Dylunio ac Ad-drefnu’r Gwasanaeth:
Cymryd rôl arweiniol ragweithiol wrth ddylunio ac ad-drefnu gwasanaethau, gan ysgogi arloesi a gwelliant i ddiwallu anghenion esblygol ein poblogaeth.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid:
Arwain perthnasoedd allweddol gyda Phrif Weithredwyr, Llywodraeth Cymru, a gwleidyddion, gan wasanaethu fel llysgennad i’r CBC yng Nghymru a ledled y DU.

Rheoli Prosiect:
Goruchwylio rheolaeth prosiectau rhaglenni cenedlaethol, gan sicrhau darpariaeth effeithiol ac aliniad ag amcanion strategol.

Rheoli Contract:
Sicrhau bod trefniadau contract cadarn ar waith gyda darparwyr gofal iechyd, gan hyrwyddo atebolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.

Rheoli perfformiad:
Atebolrwydd am gyflawni targedau perfformiad, monitro a llywio gwelliannau mewn canlyniadau gofal iechyd.

Strategaethau Llywodraethu a Gwybodaeth:
Sicrhau bod systemau llywodraethu cadarn, integredig a strategaethau gwybodaeth effeithiol ar waith, gan hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd, a gwneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata.

Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:
Comisiynu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob unigolyn yng Nghymru.