Ein Strwythur

Rydym yn arwain yr ymdrechion comisiynu i sicrhau mynediad at ystod gynhwysfawr o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Siart Sefydliadol Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Mae’r isod yn adlewyrchu Map Atebolrwydd Cyd-bwyllgor Comisiynu Cenedlaethol GIG Cymru:

NHS Wales Joint Commissioning Committee Organisational Chart

Rydym yn arwain yr ymdrechion comisiynu i sicrhau mynediad at ystod gynhwysfawr o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

  • Gwasanaethau Ambiwlans a 111: Rydym yn blaenoriaethu mynediad at wasanaethau ymateb meddygol brys a llinell gymorth GIG 111 Cymru, gan sicrhau gofal amserol a phriodol i unigolion sydd angen cymorth meddygol brys.
  • Gwasanaethau Arbenigol:Mae ein hadran yn goruchwylio comisiynu gwasanaethau gofal trydyddol arbenigol, gan gynnwys llawdriniaethau cymhleth, trawsblaniadau a thriniaethau uwch, i ddiwallu anghenion cleifion â chyflyrau meddygol cymhleth a phrin.
  • Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed: Rydym yn blaenoriaethu mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu a chymorth i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys unigolion â salwch meddwl, anhwylderau cam-drin sylweddau, ac anghenion cymhleth eraill, i hyrwyddo lles meddwl a chynhwysiant cymdeithasol.
  • Cyllid a Gwybodaeth: Rydym yn cydlynu rheolaeth ariannol a systemau gwybodaeth i gefnogi darpariaeth effeithlon o wasanaethau gofal iechyd, gan sicrhau tryloywder, atebolrwydd, a gwneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata.
  • Cynllunio a Pherfformiad: Mae ein hadran yn arwain cynllunio strategol a monitro perfformiad gan ganolbwyntio ein hymdrechion i sicrhau aliniad â nodau gofal iechyd, blaenoriaethau ac anghenion cymunedol.
  • Nyrsio a Sicrwydd Ansawdd:rydym yn goruchwylio mentrau sicrhau ansawdd i fonitro a gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd.
  • Cyfarwyddiaeth Feddygol: Mae’r Gyfarwyddiaeth Feddygol yn llywio mentrau strategol i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal iechyd diogel, effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ledled Cymru.